Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 25 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_25_10_2012&t=0&l=cy
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Andrew Jeffreys, Pennaeth Buddsoddi Cyfalaf Strategol; a Jeff Andrews, Ymgynghorydd Polisi Arbenigol.
2.2 Craffodd yr Aelodau ar waith y Gweinidog.
Camau gweithredu:
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
· Ffigurau’n amlygu’r nifer isel o bobl sy’n hawlio Budd-dal Treth Cyngor.
· Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Gwasanaeth Effeithiol a’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn cael eu darparu.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14.
3.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 4 i 8 ar yr agenda hon a’r cyfarfod cyfan ddydd Llun 5 Tachwedd.
5. Ystyried yr adroddiad drafft ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
6. Ystyried y dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar gyllideb drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14.
7. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - y prif themâu a materion sy'n dod i'r amlwg
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif themâu a’r materion sy’n dod i'r amlwg o’r dystiolaeth a gafodd ar gyllideb drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14.
8. Ystyried y rhaglen waith ddrafft - tymor yr hydref 2012
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref 2012.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.